Pecynnau Iaith Gweinydd 2010 ar gyfer SharePoint Server 2010, Project Server 2010, Search Server 2010, a Rhaglenni Gwe Office 2010
Mae pecynnau iaith yn golygu bod modd creu safleoedd a chasgliadau o safleoedd mewn mwy nag un iaith heb orfod gosod fersiynau gwahanol o SharePoint Server 2010, Project Server 2010, Search Server 2010, a Rhaglenni Gwe Office 2010
Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.
Fersiwn:
SP2
Dyddiad Cyhoeddi:
20/12/2019
Enw'r ffeil:
ServerLanguagePack_SP2_cy-gb.exe
Maint Ffeil:
59.2 MB
Mae pecynnau iaith yn golygu bod modd creu safleoedd a chasgliadau o safleoedd mewn mwy nag un iaith heb orfod gosod fersiynau gwahanol o SharePoint Server 2010, Project Server 2010, Search Server 2010, a Rhaglenni Gwe Office 2010. Mae modd gosod mwy nag un pecyn iaith ar yr un gweinydd. Fydd defnyddio Pecyn Iaith ddim yn newid iaith y cynnyrch gweinydd Microsoft sydd wedi'i osod, nac iaith y nodweddion gweinyddol.
Nodiadau- Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych chi wedi'i gosod, diben y pecynnau iaith hyn yw cefnogi creu ieithoedd ychwanegol.
Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi
Windows Server 2008 R2, Windows Server 2008 Service Pack 2, Windows Server 2012
-
Bydd hwn yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:
- Microsoft SharePoint Server 2010
- Microsoft Project Server 2010
- Microsoft SharePoint Search Server 2010
- Microsoft SharePoint Search Server Express 2010
- Rhaglenni Gwe Microsoft Office 2010
-
Bydd hwn yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:
- I osod y pecyn iaith hwn:
Gosod pecyn iaith:- Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
- Rhedwch y rhaglen gosod.
- Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, darllenwch y telerau, ticiwch y blwch Rwy'n derbyn telerau'r cytundeb hwn, ac wedyn clicio Bwrw ymlaen.
- Bydd y dewin gosod yn rhedeg ac yn gosod y pecyn iaith.
- Ailredwch y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint, drwy ddefnyddio'r gosodiadau diofyn.
Ailredeg y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint:- Cliciwch Cychwyn, pwyntio at Pob Rhaglen, pwyntio at Cynnyrch Microsoft SharePoint 2010, ac wedyn clicio Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint.
- Ar dudalen groeso Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint, cliciwch Nesaf.
- Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy'n rhoi gwybod i chi efallai y bydd angen ailgychwyn rhai gwasanaethau wrth ffurfweddu.
- Ar y dudalen Addasu Gosodiadau Fferm o Weinyddion, cliciwch Peidio â datgysylltu o'r fferm hon o weinyddion, ac wedyn clicio Nesaf.
- Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Gweinyddu Gwe Gweinyddu Canolog SharePoint yn ymddangos, peidiwch ag addasu dim o'r gosodiadau diofyn, ac wedyn cliciwch Nesaf.
- Ar y dudalen Cwblhau Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint, cliciwch Nesaf.
- Ar y dudalen Wedi Llwyddo i Ffurfweddu, cliciwch Gorffen.
I gael gwybodaeth am ddefnyddio, ewch i'r dudalen Defnyddio pecynnau iaith (SharePoint Server 2010).
I dynnu'r pecyn iaith hwn:- Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn clicio Panel Rheoli.
- Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
- Yn y rhestr o'r rhaglenni sydd eisoes wedi'u gosod, dewiswch Pecyn Iaith Fersiwn 2010 Meddalwedd Gweinydd a Rhaglenni Gwe Office – Cymraeg , ac yna clicio Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
- Cliciwch Iawn neu Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.