Trace Id is missing

Offer Prawfddarllen Microsoft Office 2013 - Cymraeg

Mae Offer Prawfddarllen Microsoft Office yn galluogi golygu mewn ieithoedd ychwanegol.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

  • Fersiwn:

    2013

    Dyddiad Cyhoeddi:

    7/1/2013

    Enw'r ffeil:

    proofingtools_cy-gb-x64.exe

    proofingtools_cy-gb-x86.exe

    Maint Ffeil:

    1.2 MB

    1.2 MB

    Ydych chi am wirio sillafu iaith na chafodd ei gosod yn awtomatig gan Office? Rydych chi yn y lle iawn. Mae Offer Prawfddarllen Microsoft Office yn cynnwys y set lawn o offer prawfddarllen sydd ar gael ar gyfer Office yn yr iaith hon. Gosodwch ac yna ailgychwyn Office, a bydd yr offer prawfddarllen ar gyfer eich iaith yn barod i fynd.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows 7, Windows 8, Windows Server 2008 R2

    Mae hwn yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:
    Microsoft Office Excel 2013
    Microsoft Office OneNote 2013
    Microsoft Office Outlook 2013
    Microsoft Office PowerPoint 2013
    Microsoft Office Word 2013
  • I osod hwn:
    Gosod yr offer prawfddarllen:


    1. Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i Lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
    2. Rhedwch y rhaglen gosod.
    3. Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, darllenwch y telerau, ticiwch y blwch "Cliciwch yma i dderbyn Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft", ac wedyn cliciwch Bwrw Ymlaen.
    4. Bydd y dewin gosod yn rhedeg ac yn gosod yr offer prawfddarllen.
    5. Ar ôl gorffen gosod, ailgychwynnwch eich rhaglenni Office.


    Cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio: Defnyddiwch yr offer prawfddarllen fel y byddech yn ei wneud fel rheol - dylech chi nawr eu gweld ar gyfer yr iaith rydych chi newydd ei gosod. Er enghraifft, gallwch osod eich iaith prawfddarllen i'r iaith newydd i wirio sillafu (os yw ar gael) - i ddysgu sut mae gwneud hynny, edrychwch ar Newid rhwng ieithoedd gwahanol drwy osod yr iaith prawfddarllen

    I dynnu hwn:
    1. Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn clicio Panel Rheoli.
    2. Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
    3. Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod, dewiswch Offer Prawfddarllen Microsoft Office 2013 - Cymraeg ac wedyn clicio Dadosod, Tynnu, neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
    4. Cliciwch Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.