Pecynnau Iaith ar gyfer SharePoint Foundation 2013
Mae pecynnau iaith yn caniatáu ar gyfer creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb fod angen gosod gwahanol fersiynau o SharePoint Foundation 2013 ar wahân
Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.
Fersiwn:
2013
Dyddiad Cyhoeddi:
2/4/2014
Enw'r ffeil:
sharepointlanguagepack.img
Maint Ffeil:
58.0 MB
Mae pecynnau iaith yn caniatáu ar gyfer creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb fod angen gosod gwahanol fersiynau o SharePoint Foundation 2013 ar wahân. Mae modd gosod sawl pecyn iaith ar yr un gweinydd. Fydd rhoi Pecyn Iaith ar waith ddim yn newid iaith y cynnyrch gweinydd Microsoft sydd wedi'i osod, na iaith y nodweddion gweinyddol.
Nodiadau
- Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych chi wedi'i gosod. Mae'r pecynnau iaith hyn yn bodoli er mwyn gallu delio â chreu ieithoedd ychwanegol.
Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi
Windows Server 2008 R2 SP1, Windows Server 2012
- Mae modd llwytho'r eitemau hyn i lawr gan ddefnyddio'r rhaglenni canlynol:
- Microsoft SharePoint Foundation 2013
- Mae modd llwytho'r eitemau hyn i lawr gan ddefnyddio'r rhaglenni canlynol:
- I osod yr eitemau i'w llwytho i lawr hyn:
Gosod pecyn iaith:- Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i Lawr (uchod) a chadw'r ffeil yn eich disg galed.
- Rhowch y rhaglen gosod ar waith.
- Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, adolygwch y telerau, dewis y blwch ticio Rwy'n derbyn telerau'r cytundeb hwn, a chlicio Bwrw ymlaen.
- Bydd y dewin gosod yn rhoi'r pecyn iaith ar waith ac yn ei osod.
- Rhowch y Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint ar waith eto, drwy ddefnyddio'r gosodiadau diofyn.
Rhoi'r Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint ar waith eto:- Cliciwch Cychwyn, pwyntio at Pob Rhaglen, pwyntio at Cynnyrch Microsoft SharePoint 2013, a chlicio Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint.
- Ar y dudalen Croeso i Dechnolegau a Chynnyrch SharePoint, cliciwch Nesaf.
- Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy'n eich rhybuddio efallai fydd angen ailgychwyn rhai gwasanaethau yn ystod y broses ffurfweddu.
- Ar y dudalen Addasu Gosodiadau Fferm Gweinydd, cliciwch Peidio â datgysylltu o'r fferm gweinydd hon, a chlicio Nesaf.
- Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Gweinyddiaeth Gwe Gweinyddiaeth Ganolog SharePoint yn ymddangos, peidiwch ag addasu unrhyw rai o'r gosodiadau diofyn, a chliciwch Nesaf.
- Ar y dudalen Cwblhau'r Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint, cliciwch Nesaf.
- Ar y dudalen Wedi Llwyddo i Ffurfweddu, cliciwch Gorffen.
I gael gwybodaeth ynglŷn â defnyddio pecynnau iaith, ewch i'r safle Gosod neu ddadosod pecynnau iaith ar gyfer safle SharePoint 2013.
I dynnu'r eitemau wedi'u llwytho i lawr hyn:- Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau a chlicio Panel Rheoli.
- Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
- Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch yr eitem sydd wedi'i gosod a chlicio Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
- Cliciwch Ie neu Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.