Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Vista
Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Vista yn rhoi Rhyngwyneb Defnyddiwr sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows Vista.
Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.
Fersiwn:
1.0
Dyddiad Cyhoeddi:
21/11/2007
Enw'r ffeil:
LIP_cy-GB.mlc
Maint Ffeil:
2.4 MB
Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Vista ar gyfer Windows Vista yn rhoi fersiwn sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows. Ar ôl gosod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith, bydd y testun yn y dewiniaid, y blychau deialog, y dewislenni, y pynciau Help a Chymorth ac eitemau eraill yn y rhyngwyneb defnyddiwr yn ymddangos yn iaith y Pecyn Rhyngwyneb Iaith. Bydd y testun nad yw wedi'i gyfieithu'n ymddangos yn iaith sylfaen Windows Vista. Er enghraifft, os oeddech wedi prynu fersiwn Saesneg o Windows Vista ac wedi gosod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Cymraeg, bydd rhywfaint o destun yn dal i fod yn Saesneg. Gallwch osod mwy nag un Pecyn Rhyngwyneb Iaith, er mwyn i bawb sy'n defnyddio'r cyfrifiadur allu gweld y rhyngwyneb defnyddiwr yn eu dewis iaith.Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi
Windows Vista
• Microsoft Windows Vista
• Rhyngwyneb defnyddiwr yn yr iaith/ieithoedd canlynol: Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Rwsieg, Serbeg (Lladin), Croateg, Norwyeg (Bokmål)
• 4.63 Mb o le rhydd ar gyfer llwytho i lawr
• 15 Mb o le rhydd ar gyfer gosod
Llwyfannau a gefnogir: Dim ond gyda fersiynau 32-did o Windows Vista y gall Pecynnau Rhyngwyneb Iaith weithio a does dim modd eu gosod ar fersiynau blaenorol o Windows nac ar fersiynau 64-did o Windows Vista.- -
Cliciwch y botwm
Llwytho i lawr
ar y dudalen hon i ddechrau llwytho i lawr, neu gallwch ddewis iaith arall o'r rhestr a chlicio
Mynd
.
- Gwnewch un o'r canlynol:
I ddechrau gosod ar unwaith, cliciwch
Agor
neu
Rhedeg y rhaglen hon o'i lleoliad cyfredol
.
I gopio'r ffeil rydych wedi ei llwytho i lawr i'r cyfrifiadur ar gyfer ei osod rhywbryd eto, cliciwch
Cadw
neu
Cadw'r rhaglen hon ar ddisg
.
-
-
-
-