Trace Id is missing

Offer Prawfddarllen Microsoft Office 2016 - Saesneg

Mae Offer Prawfddarllen Microsoft Office yn galluogi golygu mewn ieithoedd ychwanegol.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

  • Fersiwn:

    2016

    Dyddiad Cyhoeddi:

    25/5/2016

    Enw'r ffeil:

    proofingtools2016_cy-gb-x64.exe

    proofingtools2016_cy-gb-x86.exe

    Maint Ffeil:

    1.5 MB

    1.4 MB

    Ydych chi am wirio sillafu mewn iaith sydd ddim wedi’i gosod yn awtomatig gan Office? OS felly, rydych chi yn y lle cywir. Mae Offer Prawfddarllen Microsoft Office yn cynnwys y gyfres lawn o offer prawfddarllen sydd ar gael yn Office yn yr iaith hon. Dylech osod ac ailgychwyn Office, a bydd yr offer prawfddarllen ar gyfer eich iaith yn barod i chi.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows 7, Windows 8, Windows Server 2008 R2

    Mae'r pecyn hwn yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:
    • Microsoft Office Excel 2016
    • Microsoft Office OneNote 2016
    • Microsoft Office Outlook 2016
    • Microsoft Office PowerPoint 2016
    • Microsoft Office Word 2016
  • I osod yr eitem hon sydd wedi'i llwytho i lawr:

    Gosod yr offer prawfddarllen:

    1. Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
    2. Rhedwch y rhaglen osod.
    3. Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, tarwch olwg dros y telerau, rhoi tic yn y blwch "Clicio yma i dderbyn Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft", ac wedyn clicio Parhau.
    4. Bydd y dewin gosod yn rhedeg ac yn gosod yr offer prawfddarllen.
    5. Ar ôl i'r rhaglen osod ddod i ben, dylech ailgychwyn y rhaglenni Office sydd gennych ar agor.


    Cyfarwyddiadau defnyddio:Defnyddiwch yr offer prawfddarllen fel y byddech yn ei wneud fel arfer - dylech chi nawr allu eu gweld ar gyfer yr iaith rydych chi newydd ei gosod. Er enghraifft, gallwch osod eich iaith prawfddarllen i’r iaith newydd er mwyn defnyddio’r gwirydd sillafu (os yw ar gael). I ddysgu sut mae gwneud hynny, darllenwchNewid rhwng ieithoedd gwahanol gan ddefnyddio’r bar Iaith

    I dynnu'r ffeil hon:
    1. Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn clicio Panel Rheoli.
    2. Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
    3. Yn y rhestr o raglenni sydd wedi’u gosod, dewiswch Offer Prawfddarllen Microsoft Office 2016 - Saesneg ac wedyn cliciwch Dadosod, Tynnu, neu Ychwanegu/Tynnu. Os oes blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu’r rhaglen.
    4. Cliciwch Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.