Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows 7
Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows 7 yn rhoi Rhyngwyneb Defnyddiwr sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows 7.
Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.
Fersiwn:
1.0
Dyddiad Cyhoeddi:
4/2/2010
Enw'r ffeil:
LIP_cy-GB-32bit.mlc
LIP_cy-GB-64bit.mlc
Maint Ffeil:
2.5 MB
4.0 MB
Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith (LIP) Windows yn rhoi fersiwn sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows. Ar ôl gosod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith, bydd y testun yn y dewiniaid, y blychau deialog, y dewislenni a'r pynciau Help a Chymorth yn ymddangos yn iaith y Pecyn Rhyngwyneb Iaith. Bydd y testun nad yw wedi'i gyfieithu yn dal yn iaith sylfaen Windows 7. Er enghraifft, os oeddech chi wedi prynu fersiwn Saesneg o Windows 7, ac wedi gosod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Cymraeg, bydd rhywfaint o destun yn dal yn Saesneg. Gallwch osod mwy nag un Pecyn Rhyngwyneb Iaith ar un iaith sylfaen. Mae modd gosod Pecynnau Rhyngwyneb Iaith ar bob argraffiad o Windows 7.Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi
Windows 7
• Microsoft Windows 7
• Gosod iaith sylfaen ofynnol Windows 7: Saesneg
• 4.63 Mb o le gwag er mwyn llwytho i lawr
• 15 Mb o le gwag er mwyn gosod
- RHYBUDD: Os yw amgryptiad BitLocker wedi ei alluogi gennych chi, rhaid i chi ei atal cyn gosod y LIP. Agorwch y Control Panel, dewis System and Security, wedyn BitLocker Drive Encryption (Amgryptiad Gyriant BitLocker). Cliciwch ar Suspend Encryption (Atal Amgryptiad).
Oherwydd bod ffeiliau gwahanol i'w llwytho i lawr ar gyfer fersiynau 32-did a 64-did LIP Windows 7, cyn i chi ddechrau llwytho i lawr, mae arnoch angen gwybod pa fersiwn o Windows 7 rydych chi wedi'i osod:
Cliciwch y botwm Start, wedyn de-glicio Cyfrifiadur a dewis Properties . Bydd hyn yn agor gwybodaeth sylfaenol am y cyfrifiadur.
Edrychwch yn yr adran System am Math o system. Bydd hyn yn dweud wrthych a ydych yn rhedeg fersiwn 32-did neu 64-did system gweithredu Windows 7
I osod y fersiwn 32-did, gallwch naill ai:
- Clicio'r botwm Llwytho i Lawr, wedyn clicio Open i osod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith
- Clicio'r botwm Llwytho i Lawr
- Cliciwch Save i gopïo'r ffeil i'r cyfrifiadur,
- Ewch at y ffeil rydych chi wedi'i llwytho i lawr a'i dwbl-glicio i osod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith
neu
I osod y fersiwn 64-did, rhaid i chi ddefnyddio'r ail ddewis uchod.