Iaith Microsoft Office ScreenTip
Defnyddiwch gyfieithiadau ScreenTip i ddangos testun elfennau dangos – megis botymau, dewislenni a blychau deialog – mewn iaith arall.
Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.
Fersiwn:
1.0
Dyddiad Cyhoeddi:
27/2/2013
Enw'r ffeil:
screentiplanguage_cy-gb_32bit.exe
screentiplanguage_cy-gb_64bit.exe
Maint Ffeil:
1.4 MB
1.4 MB
Newidiwch yr iaith ScreenTip i ddangos cyfieithiadau o elfennau dangos – megis botymau, dewislenni a blychau deialog – mewn iaith arall a helpu defnyddwyr i lywio drwy gymwysiadau Microsoft Office a gafodd eu gosod mewn iaith na ddeallant.
Dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd defnyddio:- Cymorth iaith dwyieithog ac amlieithog
- Gall Peirianwyr Help estyn cymorth ar gyfer ieithoedd na ddeallant
- Defnyddwyr sy'n defnyddio Office mewn iaith dramor dros dro neu am gyfnod dro dro (defnyddwyr Crwydrol)
- Defnydd iaith cyfrifiaduron personol a rennir
Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi
Windows 7, Windows 8 Release Preview
- Cymwysiadau Microsoft Office wedi'u Cynnal:
- Microsoft Office Word 2013, Microsoft Office Excel 2013, Microsoft Office Outlook 2013, Microsoft Office PowerPoint 2013, Microsoft Office OneNote 2013, Microsoft Office Visio 2013, Microsoft Office Publisher 2013
- Angen meddalwedd:
- Gall fod angen gosod ffeiliau cefngaetha r gyfer ieithoedd Dwyrain Asia a Sgript Cymhleth. Gellir gwneud hyn trwy'r Panel Rheoli yn 'Opsiynau Rhanbarthol a Iaith'.
- I osod y lawrlwythiad hwn:
- Cliciwch y botwm Llwytho i Lawr ar y tudalen hwn i gychwyn.
- Gwnewch un o'r canlynol:
- I ddechrau'r gosod yn syth, cliciwch Rhedeg.
- I gadw'r eitem llwytho i lawr ar eich cyfrifiadur i'w gosod yn nes ymlaen, cliciwch Cadw.
- I ganslo'r gosod, cliciwch Canslo.
I ddiffodd neu newid yr Iaith ScreenTip- Cliciwch y botwm Ffeil Office, dethol Dewisiadau, dethol Iaith a threfnu'r Iaith ScreenTip fel 'Cyfateb i'r Iaith Ddangos'.
I dynnu'r lawrlwythiad hwn:- O'r ddewislen Cychwyn, ewch i Panel Rheoli.
- Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
- Yn y rhestr o'r rhaglenni sydd eisoes wedi'u gosod, detholwch Iaith Microsoft Office ScreenTip , ac yna clicio Tynnu neuYchwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
- Cliciwch Iawn neu OK i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.