Cyhoeddwyd: 30 Gorffennaf, 2023
Yn dod i rym ar: 30 Medi, 2023
Mae'r telerau ("Telerau") hyn yn cynnwys y defnydd hynny o gynhyrchion defnyddwyr, gwefannau a gwasanaethau Microsoft a restrir ar ddiwedd y Telelerau hyn yma (https://www.microsoft.com/servicesagreement#serviceslist) (y "Gwasanaethau"). Drwy roi'r cyfle i danysgrifio ar gyfer Gwasanaethau, eu defnyddio a/neu eu harchebu, mae Microsoft yn rhoi cynnig i chi. Rydych yn derbyn y Telerau hyn drwy greu cyfrif Microsoft, drwy ddefnyddio'r Gwasanaethau neu drwy barhau i ddefnyddio'r Gwasanaethau ar ôl cael gwybod am newid i'r Telerau hyn. Darllenwch, argraffwch a chadwch gopi o'r Telerau hyn ar gyfer eich cofnodion oherwydd ni fydd Microsoft yn cadw copi i chi.
Os ydych chi'n ficro-fenter, menter fach neu sefydliad dim-am-elw, darllenwch adran 15 ar ildio unrhyw hawliau a vfyddai fel arall yn berthnasol i chi o dan y Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd.
1. Eich Preifatrwydd. Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Darllenwch Ddatganiad Preifatrwydd Microsoft (https://go.microsoft.com/fwlink/?LinkId=521839) (y 'Datganiad Preifatrwydd') gan ei fod yn disgrifio'r mathau o Ddata rydyn ni'n eu casglu gennych chi ac o'ch dyfeisiau ('Data'), sut rydyn ni'n defnyddio'ch Data a'r sail gyfreithiol dros brosesu eich Data. Mae'r Datganiad Preifatrwydd hefyd yn disgrifio sut mae Microsoft yn defnyddio eich cynnwys, sef eich cyfathrebu â phobl eraill; postiadau rydych chi'n eu cyflwyno i Microsoft drwy'r Gwasanaethau; a'r ffeiliau, y lluniau, dogfennau, sain, gweithiau digidol, ffrydiau byw a'r fideos rydych chi'n eu llwytho i fyny, eu storio, eu darlledu, eu creu, eu cynhyrchu neu eu rhannu drwy'r Gwasanaethau, neu fewnbynnau a gyflwynwch er mwyn cynhyrchu cynnwys ('Eich Cynnwys').
2. Eich Cynnwys. Mae nifer o'n Gwasanaethau'n caniatáu i chi greu, storio neu rannu Eich Cynnwys neu dderbyn deunyddiau gan eraill. Nid ydym yn honni ein bod yn berchen ar Eich Cynnwys. Mae Eich Cynnwys yn parhau i fod eich cynnwys chi a chi sy'n gyfrifol amdano.
3. Cod Ymddygiad. Rydych chi'n atebol am eich ymddygiad a'ch cynnwys wrth ddefnyddio'r Gwasanaethau.
4. Defnyddio'r Gwasanaethau a Chymorth.
5. Defnyddio Gwasanaethau ac Apiau Trydydd Parti. Mae'n bosib bydd y Gwasanaethau yn eich galluogi i gyrchu neu brynu cynnyrch, gwasanaethau, gwefannau, dolenni, cynnwys, deunyddiau, gemau, sgiliau, integreiddiadau, botiaid neu apiau gan drydydd partïon annibynnol (cwmnïau neu bobl sydd ddim yn Microsoft) ("Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti"). Mae llawer o'n Gwasanaethau hefyd yn eich helpu i ganfod, i wneud ceisiadau, neu i ryngweithio ag Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti, neu'n eich galluogi i rannu Eich Cynnwys neu Ddata, gan ddeall trwy ddefnyddio ein Gwasanaethau eich bod chi'n eu cyfarwyddo ein Gwasanaethau i ddarparu Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti i chi. Mae'n bosib bydd yr Apiau a'r Gwasanaethau Trydydd Parti yn eich galluogi i storio Eich Cynnwys neu Ddata gyda chyhoeddwr, darparwr neu weithredwr yr Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti. Gallai'r Apiau a'r Gwasanaethau Trydydd Parti gyflwyno polisi preifatrwydd i chi neu ofyn i chi dderbyn eu telerau cyn y gallwch osod neu ddefnyddio'r Ap neu'r Gwasanaeth Trydydd Parti. Gweler adran 13.b ar gyfer telerau atodol i raglenni gaffaelir trwy Siopau sy'n eiddo i neu a weithredir gan Microsoft neu ei is-gwmnïau (yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, Office Store, Microsoft Store ar Xbox a Microsoft Store ar Windows). Dylech chi daro golwg dros unrhyw bolisïau preifatrwydd a thelerau trydydd parti cyn prynu, defnyddio, gwneud cais neu gysylltu eich Cyfrif Microsoft i unrhyw Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti. Fydd unrhyw delerau trydydd parti ddim yn addasu'r Telerau hyn. Nid yw Microsoft yn trwyddedu unrhyw eiddo deallusol i chi fel rhan o unrhyw Wasanaethau ac Apiau Trydydd Parti. Rydych chi'n cytuno i dderbyn yr holl risgiau ac atebolrwydd sy'n deillio o'ch defnydd o Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti, ac nad yw Microsoft yn gyfrifol nac yn atebol i chi nac i eraill am wybodaeth neu wasanaethau sy'n cael eu darparu gan unrhyw Apiau a Gwasanaethau Trydydd Parti.
6. Argaeledd Gwasanaeth.
7. Diweddariadau i'r Gwasanaethau neu Feddalwedd a Newidiadau i'r Telerau Hyn.
8. Trwydded Meddalwedd. Oni bai bod cytundeb trwydded Microsoft ar wahân (er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio rhaglen Microsoft sydd wedi'i chynnwys gyda ac yn rhan o Windows, yna Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft ar gyfer System Weithredu Windows sy'n llywodraethu meddalwedd o'r fath), bydd unrhyw feddalwedd a ddarparwyd gennym i chi fel rhan o'r Gwasanaethau yn amodol ar y Telerau hyn. Mae rhaglenni a gaffaelir trwy Siopau sy'n eiddo i neu a weithredir gan Microsoft neu ei is-gwmnïau (yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, Office Store, Microsoft Store ar Windows a Microsoft Store ar Xbox) yn amodol ar adran 13.b.i isod.
9. Telerau Talu. Os byddwch chi'n prynu Gwasanaeth, yna bydd y telerau talu hyn yn berthnasol i'r prynu ac rydych chi'n cytuno iddyn nhw.
10. Endid Contractio, Dewis Cyfraith a Lle i Ddatrys Anghydfod. Os ydych chi'n byw yn (neu os ydych chi'n fusnes, y mae eich prif leoliad busnes yn) yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Lichtenstein, Norwy, y Swistir neu'r Deyrnas Unedig, a'ch bod yn defnyddio Gwasanaethau heb gost neu am dâl, rydych chi'n mynd i gytundeb gyda Microsoft Ireland Operations Limited, One Microsoft Place, South County Business Park, Leopardstown, Dublin 18, Iwerddon (cofrestrwyd yn y Swyddfa Cofrestru Cwmnïau yn Iwerddon dan rif 256796, rhif cofrestru TAW: IE 8256796 U, gyda chyfeiriad cofrestredig o 70 Sir John Rogerson’s Quay, Dublin 2, Iwerddon). Cyfreithiau Iwerddon fydd yn llywodraethu pob hawliad yn ymwneud â Gwasanaethau heb gost ac am ddim, ond ni fydd hyn yn eich amddifadu o'r amddiffyniadau cwsmeriaid gofynnol dan gyfraith y wlad yr rydym yn cyfeirio eich Gwasanaeth iddo lle rydych chi'n byw fel arfer (neu, os ydych chi'n fusnes, lle mae prif leoliad eich busnes). Mewn perthynas ag awdurdodaeth, rydych chi a Microsoft yn cytuno i ddewis llysoedd y wlad lle rydyn ni'n cyfeirio eich Gwasanaethau lle rydych chi'n byw fel arfer (neu, os ydych chi'n fusnes, lle y mae prif leoliad eich busnes) ar gyfer pob anghydfod sy'n codi oherwydd neu'n ymwneud â'r Telerau hyn, neu fel arall, gallwch chi ddewis y llys sy'n gyfrifol yn Iwerddon.
11. Warantau. Os ydych chi'n ddefnyddiwr, mae gennych chi hawliau penodol o dan y gyfraith. Mae'r hawliau hyn yn cynwys bod rhaid i Microsoft ddarparu'r Gwasanaethau gan ddefnyddio gofal a sgiliau rhesymol. Nid oes dim yn y telerau hyn a fwriedir i gyfyngu ar neu eithrio ein hatebolrwydd am unrhyw doriad gan Microsoft o hyn a byddwch chi'n elwa o'r warant gyfreithiol o gydymffurfio a diffygion cuddiedig o dan gyfraith y wlad rydym ni'n cyfeirio eich Gwasanaethau. Dysgwch fwy am eich hawliau statudol yma (https://www.microsoft.com/en-gb/store/b/aboutwarranties). YN AMODOL AR Y WARANT UCHOD AC AC EITHRIO MEWN ACHOSION LLE RYDYM NI WEDI CUDDIO DIFFYGION YN ANNIDWYLL NEU DDIFFYGION SYDD WEDI ACHOSI'R DEFNYDD O'R GWASANAETHAU'N AMHOSIBL, AC AC EITHRIO AM GYNHYRCHION A DALWYD DRWY SKYPE, RYDYM YN DARPARU'R GWASANAETHAU “FEL Y MAENT,” “GYDA PHOB DIFFYG” AC “FEL Y MAE AR GAEL.” NID YDYM YN GWARANTU CYWIRDEB NAC AMSEROLDEB Y GWASANAETHAU. RYDYCH CHI'N CYDNABOD AC YN CYTUNO NAD YDY SYSTEMAU CYFRIFIADUROL A THELEGYFATHREBU HEB EU NAMAU A BOD ADEGAU'N GALLU CODI O BRYD I'W GILYDD PAN FYDDAN NHW DDIM YN GWEITHIO. NI ALLWN WARANTU Y BYDD Y GWASANAETHAU HEB AMHARIAD, YN AMSEROL, YN DDIOGEL NAC YN RHYDD RHAG GWALLAU. NID YDYM NI NA'N CWMNÏAU CYSYLLTIEDIG, EIN HAIL-WERTHWYR, EIN DOSBARTHWYR NA'N GWERTHWYR YN RHOI DIM GWARANTAU NAC AMODAU CONTRACTOL. MAE GENNYCH CHI BOB WARANT ORFODOL A RAGWELIR GAN Y GYFRAITH, OND NID YDYM YN RHOI UNRHYW WARANT ARALL. RYDYM YN EITHRIO POB WARANT ORFODOL YMHLYG, GAN GYNNWYS RHAI MARCHNADWYEDD, ADDASRWYDD AT DDIBEN PENODOL, YMDRECH GREFFTUS, A PHEIDIO Â THORRI AMODAU I'R GRADDAU EITHAF A GANIATEIR GAN Y GYFRAITH BERTHNASOL.
12. Cyfyngiad ar Atebolrwydd.
13. Telerau sy'n Benodol i Wasanaeth. Mae'r telerau cyn ac ar ôl adran 13 yn berthnasol yn gyffredinol i bob Gwasanaeth. Mae'r adran hon yn cynnwys telerau sy'n benodol i wasanaeth sy'n ychwanegol at y telerau cyffredinol. Mae'r telerau hyn sy'n benodol i wasanaeth yn llywodraethu os bydd unrhyw wrthdaro gyda'r telerau cyffredinol.
14. Amrywiol. Bydd yr adran hon, ac adrannau 1, 9 (ar gyfer symiau yr aethpwyd i gostau cyn diwedd y Telerau hyn), 10, 11, 12, 16 a'r rheini y bydd eu telerau'n berthnasol ar ôl iddo ddod i ben, yn goroesi os bydd y Telerau hyn yn cael eu terfynu neu eu canslo. Gallwn neilltuo, trosglwyddo neu waredu fel arall ein hawliau a'n rhwymedigaethau o dan y Telerau hyn, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, cyn belled nad yw neilltuo, trosglwyddo neu waredu o'r fath ddim yn niweidiol i chi, ar unrhyw adeg heb rybudd. Chewch chi ddim neilltuo, trosglwyddo neu waredu fel arall y Telerau hyn nac unrhyw hawliau i ddefnyddio'r Gwasanaethau. Os ydych chi'n byw yn yr Almaen, ni gwaherddir chi rhag neilltuo unryw hawl ariannol yn erbyn Microsoft. Dyma'r cytundeb cyfan rhyngoch chi a Microsoft ar gyfer eich defnydd o'r Gwasanaethau. Mae'n disodli unrhyw gytundebau blaenorol rhyngoch chi a Microsoft ynghylch eich defnydd o'r Gwasanaethau. Mae pob rhan o'r Telerau hyn yn berthnasol i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol. Os bydd llys neu gyflafareddwr yn penderfynu na allwn orfodi rhan o'r Telerau hyn fel y maent wedi cael eu hysgrifennu, bydd y telerau hynny'n cael eu disodli gan delerau tebyg i'r graddau mae modd eu gorfodi o dan y gyfraith berthnasol, ond ni fydd gweddill y Telerau hyn yn newid. Mae'r Telerau hyn ar gyfer eich budd chi a'n budd ni yn unig. Nid ydynt er budd unrhyw un arall, ac eithrio olynwyr Microsoft a'r rheini maent yn eu neilltuo. Mae penawdau'r adrannau ar gyfer cyfeirio atynt yn unig.
15. Ildiad darpariaethau diogelu defnyddiwr terfynol. Os ydych yn ficro-fenter, menter bach neu sefydliad dim-am-elw. rydych yn cytuno i ildio unrhyw a phob hawliau byssai gennych chi fel arall o dan y Cod Cyfathrebiadau Electronig. Ewropeaidd (Cyfarwyddeb 2018/1972) Erthygl 102 paragraffau 1, 3 a 5, Erthygl 105 paragraff 1 ac Erthygl 107 paragraffau 1 a 3.
16. Cyfreithiau Allforio. Rhaid i chi gydymffurfio â'r holl gyfreithiau a rheoliadau allforio domestig a rhyngwladol sy'n berthnasol i'r meddalwedd a/neu Wasanaethau, sy'n cynnwys cyfyngiadau ar gyrchfannau, defnyddwyr terfynol a defnydd terfynol. I gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau daearyddol ac allforio, ewch i https://www.microsoft.com/exporting.
17. Cadw Hawliau ac Adborth. Ac eithrio fel y darperir yn benodol o dan y Telerau hyn, nid yw Microsoft yn rhoi i chi drwydded neu unrhyw hawliau eraill o unrhyw fath o dan unrhyw batentau, gwybodaeth, hawlfreintiau, cyfrinachau masnachu, nodau masnach neu hawliau deallusol eraill sy'n eiddo i Microsoft, neu a reolir ganddo, yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i unrhyw enw, gwisg masnach, logo neu eitemau cyfatebol eraill. Os ydych chi'n rhoi unrhyw syniad, cynnig, awgrym neu adborth i Microsoft, yn cynnwys heb gyfyngiad syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd, technolegau, hyrwyddiadau, enwau cynnych, adborth am gynhyrchion neu welliannau i gynhyrchion ("Adborth"), rydych yn rhoi i Microsoft heb dâl, breindaliadau neu unrhyw rwymedigaeth arall i chi, yr hawl i wneud, fod wedi gwneud, creu gweithiau deilliadol, defnyddio, rhannu a masnachu eich Adborth mewn unrhyw fodd ac ar gyfer unrhyw ddiben. Ni fyddwch yn rhoi Adborth sy'n amodol ar drwydded sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Microsoft drwyddedu ei feddalwedd, technolegau neu ddogfennaeth i unrhyw drydydd parti oherwydd bod Microsoft yn cynnwys eich Adborth ynddynt.
Hysbysiadau a'r weithdrefn ar gyfer gwneud hawliadau am dorri eiddo deallusol. Mae Microsoft yn parchu hawliau eiddo deallusol trydydd partïon. Os oes gennych chi hawliau ynghylch torri eiddo deallusol, gan gynnwys hawliadau o dorri hawlfraint, rydym yn argymell eich bod yn anfon hysbysiad o'r fath at asiant dynodedig Microsoft. I gael manylion a gwybodaeth gyswllt, edrychwch ar Hysbysiad a Gweithdrefn ar gyfer Gwneud Hawliadau am Dorri Hawlfraint (https://www.microsoft.com/legal/intellectualproperty/infringement), y mae gweithdrefnau yn rhan o'r Telerau hyn.
Mae Microsoft yn defnyddio'r prosesau sydd wedi'u nodi yn Nheitl 17, Cod yr Unol Daleithiau, Adran 512, a, lle y bo'n berthnasol, Pennod III o Reoliad (UE) 2022/2065, i ymateb i hysbysiadau ynghylch torri hawlfraint. Mewn amgylchiadau priodol, gall Microsoft hefyd analluogi neu derfynu cyfrifon defnyddwyr gwasanaethau Microsoft sydd wedi torri hawlfraint o'r blaen. Ymhellach, mewn amgylchiadau priodol, gall Microsoft atal prosesu hysbysiadau gan unigolion neu endidau sy'n cyflwyno hysbysiadau di-sail yn aml. Mae esboniad pellach o'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer Gwasanaeth penodol, gan gynnwys iawndal posibl am benderfyniadau a wnaed gan Microsoft fel rhan o'r gweithdrefnau hyn, i'w weld yn Hysbysiad o Dor-rheol (https://www.microsoft.com/legal/intellectualproperty/infringement).
Hysbysiadau a gweithdrefnau ynghylch pryderon am eiddo deallusol mewn hysbysebion. Darllenwch ein Canllawiau ar Eiddo Deallusol (https://go.microsoft.com/fwlink/?LinkId=243207) ynghylch pryderon am eiddo deallusol ar ein rhwydwaith hysbysebu.
Hysbysiadau hawlfraint a nodau masnach. Mae'r Gwasanaethau yn hawlfraint © Microsoft Corporation a/neu ei gyflenwyr, One Microsoft Way, Redmond, WA 98052, UDA. Cedwir pob hawl. Mae'r Telerau yn ymgorffori Canllawiau Nod Masnach a Brand Microsoft (https://www.microsoft.com/en-us/legal/intellectualproperty/trademarks/usage/general.aspx) (fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd). Gall Microsoft a'r enwau, logos ac eiconau pob cynnyrch, meddalwedd a gwasanaethau un ai fod yn nodau masnach heb eu cofrestru neu'n gofrestredig i grŵp cwmnïau Microsoft yn yr Unol Daleithiau a/neu wledydd eraill. Mae'r canlynol yn rhestr nad yw'n holl gynhwysol o nodau masnach Microsoft yn https://www.microsoft.com/en-us/legal/intellectualproperty/trademarks/EN-US.aspx. Gall enwau cwmnïau a chynnyrch go iawn fod yn nodau masnach eu perchnogion perthnasol. Mae unrhyw hawliau nad ydynt yn cael eu rhoi yn benodol yn y Telerau hyn yn cael eu cadw. Mae meddalwedd penodol sy'n cael ei ddefnyddio mewn gweinyddion gwefannau penodol Microsoft yn seiliedig yn rhannol ar waith y Grŵp JPEG Annibynnol. Hawlfraint © 1991-1996 Thomas G. Lane. Cedwir pob hawl. Mae meddalwedd "gnuplot" a ddefnyddir mewn gweinyddwyr gwefan penodo Microsoft yn hawlfraint i © 1986‑1993 Thomas Williams, Colin Kelley. Cedwir pob hawl.
Hysbysiad meddygol. Nid yw Microsoft yn darparu unrhyw gyngor, diagnosis na thriniaeth meddygol na unrhyw ofal iechyd arall. Gofynnwch am gyngor eich meddyg bob tro neu ddarparwr gofal iechyd cymwysedig arall os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gyflwr meddygol, deiet, ffitrwydd neu raglen les. Peidiwch byth â diystyru cyngor meddygol proffesiynol nac oedi cyn gofyn amdano oherwydd gwybodaeth rydych chi wedi'i chael ar neu drwy'r Gwasanaethau.
Dyfynbrisiau stoc a data mynegai (gan gynnwys gwerthoedd mynegai). Mae gwybodaeth ariannol a ddarperir drwy'r Gwasanaethau ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol yn unig. Ni chewch ddefnyddio data ariannol na marciau unrhyw drwyddedwr trydydd parti yng nghyswllt cyhoeddi, creu, noddi, masnachu, marchnata na hyrwyddo unrhyw offerynnau ariannol neu gynnyrch buddsoddi (er enghraifft, deilliadau, cynnyrch strwythuredig, cronfeydd buddsoddi, cronfeydd sy'n cael eu masnachu ar y gyfnewidfa, portffolios buddsoddi, ayb., lle mae'r pris, elw a/neu berfformiad yr offeryn neu'r cynnyrch buddsoddi'n seiliedig ar, neu'n ymwneud â, neu mae bwriad iddo dracio unrhyw un o'r data ariannol) heb gytundeb ysgrifenedig ar wahân â'r trwyddedwr trydydd parti.
Hysbysiad ariannol. Nid yw Microsoft yn frocer/deliwr nac yn gynghorydd buddsoddi cofrestredig dan gyfraith gwarannau ffederal yr Unol Daleithiau na chyfreithiau gwarannau awdurdodaethau eraill ac nid yw'n cynghori unigolion ynghylch doethineb buddsoddi mewn, prynu na gwerthu gwarannau na chynnyrch na gwasanaethau ariannol eraill. Nid oes unrhyw beth yn y Gwasanaethau yn gynnig nac yn ddeisyfiad i brynu na gwerthu unrhyw warannau. Nid yw Microsoft na'i drwyddedwyr o ddyfynbrisiau stoc na data mynegai yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw gynnyrch na gwasanaethau ariannol penodol. Nid yw'n fwriad i unrhyw beth yn y Gwasanaethau fod yn gyngor proffesiynol, gan gynnwys heb gyfyngiad, cyngor ar fuddsoddi neu dreth.
Hysbysiad am y Safonau Fideo H.264/AVC a VC-1. Gall y meddalwedd gynnwys H.264/AVC a/ne VC-1 dechnoleg godec sydd wedi'i thrwyddedu gan MPEG LA, L.L.C. Mae'r dechnoleg hon yn fformat ar gyfer cywasgu data gwybodaeth fideo. Mae MPEG LA, L.L.C. yn mynnu ein bod yn rhoi'r hysbysiad hwn:
TRWYDDEDIR Y CYNNYRCH HWN DAN DRWYDDEDAU PORTFFOLIO PATENT H.264/AVC A VC-1 AR GYFER DEFNYDD PERSONOL AC ANFASNACHOL GAN DDEFNYDDIWR I (A) AMGODIO FIDEO YN UNOL Â'R SAFONAU (“SAFONAU FIDEO”) A/NEU (B) DDATGODIO FIDEO H.264/AVC A VC-1 A OEDD WEDI'I AMGODIO GAN DDEFNYDDIWR A OEDD WEDI BOD YN YMWNEUD Â GWEITHGAREDD PERSONOL AC ANFASNACHOL A/NEU A OEDD WEDI'I GAFFAEL O DDARPARWR FIDEO WEDI'I DRWYDDEDU I DDARPARU FIDEO O'R FATH. NI RODDIR TRWYDDED AC NI FYDD YN CAEL EI AWGRYMU AR GYFER UNRHYW DDEFNYDD ARALL. MAE GWYBODAETH YCHWANEGOL AR GAEL GAN MPEG LA, L.L.C. GWELER GWEFAN MPEG LA (https://www.mpegla.com).
Er mwyn bod yn glir, nid yw'r hysbysiad hwn yn rhwystro nac yn cyfyngu ar ddefnyddio'r meddalwedd sy'n cael ei ddarparu o dan y Telerau hyn at ddibenion busnes arferol sy'n bersonol i'r busnes hwnnw nad ydynt yn cynnwys (i) ailddosbarthu'r meddalwedd i drydydd partïon neu (ii) creu deunydd gyda'r technolegau sy'n cydymffurfio â'r SAFONAU FIDEO i'w dosbarthu i drydydd partïon.
Hysbysiad am Safon Fideo H.265/HEVC. Gall y meddalwedd gynnwys technoleg godio H.265/HEVC. Mae Access Advance LLC yn mynnu ein bod yn rhoi'r hysbysiad hwn:
OS YW'N CAEL EI CHYNNWYS, MAE'R DECHNOLEG H.265/HEVC YN CAEL EI CHYNNWYS GAN UN NEU FWY O HAWLIADAU'R PATENTAU HEVC A RESTRIR YN: PATENTLIST.ACCESSADVANCE.COM. YN DDIBYNNOL AR SUT Y CAWSOCH AFAEL YN Y MEDDALWEDD HWN, GALL Y CYNNYRCH HWN GAEL EI DRWYDDEDU DAN Y PORTFFOLIO PATENT PELLACH HEVC.
Os gosodir y meddalwedd hwn ar ddyfais Microsoft, gellir canfod rhagor o wybodaeth drwyddedu yn: aka.ms/HEVCVirtualPatentMarking.
TELERAU TRWYDDEDU RHAGLEN SAFONOLAR GYFER RHAGLENNI SY'N CAEL EU CYNNIG YN ARDAL ECONOMAIDD EWROP
MICROSOFT STORE, MICROSOFT STORE AR WINDOWS A MICROSOFT STORE AR XBOX
Mae'r telerau trwyddedu hyn yn gytundeb rhyngoch chi a chyhoeddwr y rhaglen. Darllenwch nhw os gwelwch yn dda. Maent yn berthnasol i'r rhaglenni meddalwedd rydych chi'n eu llwytho i lawr o Microsoft Store, Microsoft Store ar Windows neu'r Microsoft Store ar Xbox Store (cyfeirir at bob un ohonynt yn y telerau trwyddedu hyn fel "Store"), yn cynnwys unrhyw ddiweddariadau neu ategion ar gyfer y rhaglen, oni bai bod gan y rhaglen delerau ar wahân ac, os felly, y telerau hynny sy'n berthnasol.
OS NA FYDDWCH CHI'N DERBYN Y TELERAU HYN, DOES GENNYCH CHI DDIM HAWL I LWYTHO'R RHAGLEN I LAWR NA'I DEFNYDDIO A RHAID I CHI BEIDIO Â GWNEUD HYNNY.
Cyhoeddwr y rhaglen yw'r endid sy'n trwyddedu'r rhaglen i chi, fel a nodir yn y Store.
Os byddwch chi'n cydymffurfio gyda'r telerau trwyddedu, mae gennych chi'r hawliau isod.
Mae'r cynnyrch, yr apiau a'r gwasanaethau canlynol yn dod o dan Gytundeb Gwasanaethau Microsoft, ond efallai na fyddant ar gael yn eich marchnad chi.
Does dim endidau contractio cysylltiedig ar hyn o bryd. Microsoft Ireland Operations Limited yw eich endid contractio.